Athro ydw i

Mae athrawon yn defnyddio’r adnoddau hyn i roi’r sgiliau a’r hyder i bobl ifanc, o oedran cynnar, i fod yn llythrennog yn gorfforol drwy brofiadau chwaraeon difyr o ansawdd uchel.

Pam ddylech chi ddefnyddio’r adnoddau hyn?

Er bod yr adnoddau ar y platfform hwn wedi’u creu ar gyfer cwricwla cynharach, gellir eu defnyddio i ddarparu syniadau ar gyfer ymarferwyr mewn amrywiaeth o leoliadau a gweithgareddau.

Mae angen i athrawon ac ymarferwyr ddefnyddio canllawiau ac adnoddau i benderfynu pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau penodol fydd yn cefnogi eu dysgu. Mae addysgu a dysgu da yn golygu defnyddio cyfuniad o ddulliau gan gynnwys addysgu uniongyrchol, datrys problemau, yn ogystal â meddwl yn greadigol a beirniadol.

Dylid annog dysgwyr i fod yn greadigol ym mhob agwedd ar eu dysgu. Anogir ymarferwyr i ddefnyddio’r adnoddau’n greadigol fel bod dysgwyr yn ymgysylltu mwy ac yn fwy brwdfrydig, gan addasu gweithgareddau i ddiwallu eu hanghenion, eu galluoedd a’u diddordebau. Bydd hyn yn eu helpu i gynnal cyfranogiad hirdymor, adeiladu ar sgiliau sydd wedi’u sefydlu, dim ots ym mha gyfnod dysgu y maent.

Mae’r adnoddau hyn yn sbardun ar gyfer eich syniadau y gallwch eu haddasu i ddiwallu anghenion a diddordebau eich dysgwyr.

Nid yw’r adnoddau:

Nid dulliau addysgeg, addysgu neu hyfforddi yw canolbwynt yr adnoddau ar hyn o bryd, fodd bynnag, bydd yr adnoddau:

Rhybudd

Y disgwyl yw y byddwch wedi ymgymryd â hyfforddiant a dulliau dysgu blaenorol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch ac addysgeg / addysgu / dulliau hyfforddi.

Bydd y platfform yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol ac adnoddau’n cael eu hychwanegu wrth iddynt ddod ar gael.

Beth yw dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn o weithredu?

Mae dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn o weithredu yn galluogi plant a phobl ifanc i reoli eu dysgu eu hunain.

Trefnir sesiynau / gwersi o amgylch y plentyn a’i anghenion a’i ddiddordebau personol.

Mae athrawon a hyfforddwyr yno i ddarparu cefnogaeth a hwyluso dysgu’r plentyn ond mae plant yn pennu cyfeiriad eu dysgu eu hunain gan ddilyn eu chwilfrydedd, eu diddordebau a’u hangerdd naturiol.

Sut i ddefnyddio’r adnoddau

Yn unol â’r dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn/dysgwr o weithredu, nid oes ffordd benodol o ddefnyddio’r adnoddau.

Fodd bynnag, mae nifer o ddulliau ac ystyriaethau y gallech eu defnyddio i ddatblygu eich sesiwn.

Sut i lywio

Cliciwch i ddewis o’r canlynol:

Symudiadau Creadigol – Mae’r adnoddau hyn wedi’u cynllunio i gefnogi dulliau dysgu thematig a chyfannol, wedi’u gosod yng nghyd-destun symudiad creadigol, dawns, gwneud gemau creadigol a gweithgareddau creadigol i ddysgwyr ar ddechrau eu taith.

Dawns – Mae’r adnoddau hyn wedi’u cynllunio i gefnogi dulliau dysgu thematig a chyfannol, wedi’u gosod yng nghyd-destun dawns a symudiad mynegiannol drwy gydol taith y dysgwyr.

Aml-Sgiliau’r Ddraig – Mae’r adnoddau hyn yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymhwyso eu sgiliau’n raddol mewn amrywiaeth o weithgareddau cydweithredol a chystadleuol. Bydd y rhain yn sail i’r rhan fwyaf o gemau, gweithgareddau a chwaraeon y dylent fod yn rhan ohonynt bob dydd ac y byddant yn eu chwarae yn ddiweddarach mewn bywyd.

Campau’r Ddraig – Mae’r adnoddau hyn yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu, cydweithredu ac arwain ymhellach mewn amrywiaeth o weithgareddau cydweithredol a chystadleuol. Mae profi llwyddiant a mwynhad yn datblygu hyder a chymhelliant ymhellach i fwynhad gydol oes mewn chwaraeon 

Gymnasteg – Mae’r adnoddau hyn wedi’u cynllunio i gyflwyno gweithgareddau addysg corff, siapiau sylfaen a safleoedd sylfaen i gefnogi gweithgareddau gymnasteg. Mae’r gweithgareddau hyn yn hanfodol o safbwynt datblygiad corfforol a dylid eu defnyddio i ddatblygu cryfder a chyflyru, stamina, a hyblygrwydd.

Dysgu yn yr Awyr Agored – Mae’r adnoddau hyn yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous ac anturus lle gallant reoli risg, defnyddio sgiliau corfforol i oresgyn heriau a datrys problemau. Mae’r gweithgareddau’n annog dysgwyr i barchu a gwerthfawrogi eu hamgylchedd.

Chwarae i Ddysgu – cyflwyno gweithgareddau sy’n cyfateb i gerrig milltir allweddol datblygiad plant gan gynnwys camau cymdeithasol ‘Rwy’n gallu gweithio ar fy mhen fy hun’, ‘Rwy’n gallu gweithio ochr yn ochr ag eraill’ ac ‘Rwy’n gallu gweithio gydag eraill’. Gan ddefnyddio llyfrau stori a gweithgareddau bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o sgiliau a chysyniadau. Mae hwyl a chwarae yn datblygu hyder, cymhelliant a chymhwysedd corfforol gan gydnabod pwysigrwydd dechrau dysgwyr ar y daith gorfforol yn ifanc.  

*Byddwch yn sylwi bod eicon sblash ar rai adnoddau mae hyn yn dangos lle y gellid ymgymryd â’r sgiliau a’r gweithgareddau mewn amgylchedd dyfrol.

Math o Adnodd

Os ydych yn clicio Math o Adnodd bydd modd i chi ddewis o’r opsiynau canlynol:

Sgìl – mae’r eitemau hyn i gyd yn ddisgrifiadau o sgiliau / technegau ar wahân y gall dysgwr eu hymarfer i ddod yn fwy medrus. Mae dysgwyr yn teimlo eu bod yn cyflawni pethau wrth iddynt feistroli’r sgiliau hyn.  Gellir ystyried y sgiliau hyn fel fersiwn ffisegol o ffoneg gyda meistrolaeth rhai yn hanfodol i feithrin rhai eraill.  Dylid cynnwys ymarfer sgiliau fel rhan o weithgaredd corfforol dyddiol dysgwyr.  Er enghraifft, sgipio, cropian fel milwr, taflu o dan y fraich ac ati.

Gweithgaredd – mae’r eitemau hyn i gyd yn cynnwys gweithgareddau dysgu sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr gymhwyso eu sgiliau mewn ystod o gyd-destunau wrth archwilio mannau, tasgau, offer a phobl STEP. Dylai gweithgareddau fod yn rhan o weithgarwch corfforol dyddiol y dysgwyr. Er enghraifft, Crazy Capers, Tenis Tîm Tag,

Adnodd – mae’r eitemau hyn yn cadw gwybodaeth y gellir ei defnyddio i ategu a chefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflwyno a gwerthuso eich cyfleoedd dysgu.  Er enghraifft, Mapiau Cynnydd (should this be journey maps?) Mapiau Thema, Datblygu Thema, Pawb ym mhobman.

Sut mae’r dull yn gweithio mewn realiti?

Mae’r ffilm yn dangos llawer o enghreifftiau o ddull sy’n canolbwyntio ar y plentyn o weithredu.

Gwyliwch y fideo a chwiliwch am enghreifftiau o ddulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn o weithredu. I weld dysgu plentyn-ganolog ar waith, edrychwch ar yr adran o’r ffilm 06:02 yn ein ffilm. Defnyddiwch y rhestr wirio (isod) i’ch helpu gyda’ch arsylwi a’ch adlewyrchu.    

Sut allech chi gynnwys yr awgrymiadau yn eich sesiynau? Sut byddai’r dulliau hyn yn gweithio i chi?

Rydych chi nawr yn cynllunio eich sesiwn

Ymarferion Cynhesu

Datblygu Sgiliau

Creadigrwydd

Iechyd a Lles

Gemau Mini

Arwain y Dysgu

Rhestr wirio

Dyma restr wirio o bethau y dylech eu hystyried yn eich sesiwn.

Edrychwch ar y rhestr wirio yma, neu lawrlwythwch gopi isod.

Rydych chi bron yn barod i ddechrau

Cofiwch eich adlewyrchu wedyn. Gallwch ddefnyddio’r cwestiynau hyn i’ch helpu.

Beth wnaethom ni a pham?

Beth aeth yn dda?

Beth oedd ddim cystal?

Beth ydw i wedi ei ddysgu? Beth fyddwn i’n ei wneud yn wahanol y tro nesaf a pham?

Dolenni Defnyddiol

Mwy o wybodaeth am sut mae addysg yn newid a’r Cwricwlwm newydd i Gymru  

Diweddarwyd diwethaf ar 03/02/2023