Cam 5

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau

Bydd y disgyblion yn addasu yn annibynnol ac yn defnyddio sgiliau symud ar draws ystod o weithgareddau ac amgylcheddau, gan reoli gofod yn greadigol mewn ymateb i amrywiaeth o ysgogiadau.

Bydd disgyblion yn gwerthfawrogi manteision cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon rheolaidd, gan chwilio am gyfleoedd i ddatblygu arbenigedd. Mae canllawiau ac adnoddau Cam 5 yn cael eu hystyried yn unol â diwygio cymwysterau CBAC.

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi i adnoddau Addysg Gorfforol CBAC.

Mae CBAC yn cynhyrchu adnoddau addysgu a dysgu digidol o ansawdd uchel ar gyfer athrawon a dysgwyr yng Nghymru. Datblygir yr adnoddau hyn i gefnogi cyflwyno manylebau CBAC yng Nghyfnod Allweddol 4. Sylwch fod yr adnoddau hyn ar gyfer y fanyleb TGAU Addysg Gorfforol 2016 gyfredol.