Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
- Darllenwch ran benodol o’r stori/ chwaraewch ran benodol o’r stori oddi ar y CD-Rom
Anogwch y plant i:
- Archwilio hwyliau a theimladau gan ddefnyddio symudiadau syml, e.e. Sut maent yn teimlo pan fyddant yn cyrraedd y Blaned Chwarae o’i gymharu â phan fyddant yn dychwelyd i’r ardd?
- Archwilio gan ddefnyddio gweithrediadau dawns sylfaenol – teithio, troi, neidio, ystum a llonyddwch – i greu cymal/ motiff/dilyniant byr, e.e. cymal ‘ysgwyd a chrynu’, neu gymal ‘adeiladu llong ofod’, neu gymal ‘chwarae pêl-droed’
- Archwilio newidiadau o ran cyfeiriad a lefel i greu cymalau mwy diddorol, e.e. mynd â chymal ‘creadur estron’ i’r llawr
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn gweithio yn eu ‘swigod’
Cyfleoedd i
- ddatblygu symudiadau i ymateb i wahanol symbyliadau
- archwilio a mynegi hwyliau, teimladau a syniadau trwy symudiadau syml y gellir eu hailadrodd
- symud mewn gwahanol ffyrdd, gan greu siapiau amrywiol â’r corff a newid cyfeiriad a lefel
Cwestiynau
- Beth sy’n digwydd i’ch symudiadau wrth i’r creaduriaid ddechrau codi ofn arnoch?
- Sut gallech chi ddangos y llong ofod yn glanio’n ôl ar y ddaear?
- Yn eich barn chi, sut roedd Tom a Gethin yn teimlo wrth iddyn nhw lanio’n ôl ar y ddaear? E.e. yn flinedig? Allan o wynt? Beth sy’n dweud hynny wrthych yn y llun? E.e. chwys, wynebau coch
- Beth arall sy’n digwydd i’ch corff pan fyddwch chi’n gwneud ymarfer corff?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn datblygu symudiadau i ymateb i wahanol symbyliadau?
- Yn archwilio ac yn mynegi hwyliau, teimladau a syniadau trwy symudiadau syml y gellir eu hailadrodd?
- Yn symud mewn gwahanol ffyrdd, gan greu siapiau amrywiol â’r corff a newid cyfeiriad a lefel?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch y plentyn i:
- ddefnyddio mwy nag un cyfeiriad
- trafod siapiau’r corff, a thrafod pryd a sut gellid eu defnyddio
- perfformio ei weithrediadau am fwy o amser
- dychmygu beth sy’n digwydd rhwng rhai o’r digwyddiadau yn y stori, a chreu gweithrediadau i fynegi’r digwyddiadau hynny
- trafod ansawdd ei symudiadau, e.e. sut byddai cymal ‘troi’n gyflym’ yn wahanol i gymal ‘troelli a chwyrlïo’, ac ati?
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- ganolbwyntio ar ei hoff air
- ymarfer ‘Wrth iddynt ddatblygu sgiliau Symud’ gan ddefnyddio’r Cardiau Sgiliau Technegol. Sut gallai addasu’r gweithrediadau hyn fel eu bod nhw’n cysylltu â’r stori?
- gwylio plant eraill i gael syniadau. Gofynnwch beth mae’n ei hoffi? Sut gallai wneud hynny’n wahanol?
- trafod rhai o’r hwyliau a’r teimladau sydd yn y llyfr. Sut mae’n dangos ei fod yn teimlo’n ofnus? Sut roedd yn gwybod o edrych ar y lluniau bod y plant yn teimlo’n ofnus?