Ar Garlam i’r Gofod

Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau

Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Aml-Sgiliau Campau'r Ddraig

Beth am chwarae?

  • Rhowch wyth plentyn ym mhob ‘gardd’
  • Bydd angen i’r plant greu eu fersiwn eu hunain o aerobeg chwaraeon trwy berfformio ystod o symudiadau chwaraeon i gerddoriaeth
  • Bydd angen i’r plant weithio gyda phartner i greu dau symudiad gydag 16 curiad yr un. Yna, bydd dau bâr yn uno ac yn dysgu eu symudiadau i’w gilydd i gael pedwar symudiad gydag 16 curiad yr un. Yna, bydd dwy set o bedwar yn uno ac yn dysgu eu symudiadau i’w gilydd i gael dilyniant y gellir ei ailadrodd o wyth symudiad gydag 16 curiad yr un
  • Bydd angen perfformio’r symudiadau mor gywir ag sy’n bosibl

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau

Cyfleoedd i

  • ddatblygu rheolaeth, cydbwysedd a sgiliau cydsymud
  • datblygu stamina a chryfder• dangos mwy o gywirdeb wrth greu dilyniannau
  • cynnal gweithgarwch am gyfnodau priodol
  • teimlo’n dda am eu hunain
  • defnyddio egwyddorion cyfansoddi mewn gweithgareddau creadigol i gynllunio perfformiad gydag ymwybyddiaeth o’r ffactorau sy’n hybu ansawdd
  • disgrifio sut y maent yn teimlo wrth wneud gwahanol weithgareddau, a dangos rhywfaint o ddealltwriaeth o bwysigrwydd gweithgarwch corfforol i iechyd, ffitrwydd a lles

Cwestiynau

  • Sut roeddech chi’n teimlo wedi i chi orffen eich cyfres o symudiadau?
  • Pam mae’n bwysig gwneud gweithgareddau tebyg i’r rhain yn rheolaidd?
  • Sawl gwaith yr wythnos y dylech chi wneud ymarfer corff, ac am ba hyd?
  • Beth allech chi ei wneud i berswadio eich teulu i ymuno yn y gweithgaredd hwn?
  • Sut gallech chi wneud y gweithgaredd hwn yn haws?
  • Sut gallech chi wneud y gweithgaredd hwn yn fwy heriol (o ran faint o egni/gwaith meddwl y mae ei angen)?
  • Pa mor dda roeddech chi wedi cofio trefn y symudiadau?
  • Sut gallech chi wella eich gallu i gofio symudiadau?
  • Beth fyddwch chi’n ei wneud y tro nesaf i sicrhau eich bod chi’n cofio’r symudiadau i gyd?

Newidiadau i’r gweithgaredd

Newidiwch y canlynol:

  • Lle

    • y lle a ddefnyddir i berfformio ynddo gyda gwahanol bwyntiau cyfeirio
  • Tasg

    • y gweithgareddau/sgiliau sy’n rhan o’r gyfres o symudiadau, e.e. defnyddio sgiliau pêl-droed yn unig, defnyddio strociau nofio yn unig, defnyddio sgiliau athletau yn unig, defnyddio sgiliau ffitrwydd yn unig, neu rhaid cynnwys un o’r canlynol…, neu rhaid dewis o’r canlynol… ac ati. Defnyddiwch giwb symudiadau i benderfynu ar y symudiadau
    • cyfeiriad, cyflymder a lefel y symudiadau
    • nifer y symudiadau ym mhob adran – cael mwy neu lai
  • Offer

    • yr offer a ddefnyddir – ychwanegwch beli, cylchoedd, rhaffau sgipio ac ati
    • y cyfarpar a ddefnyddir – ychwanegwch feinciau, stepiau ac ati
  • Pobl

    • y grŵp sy’n dewis y symudiadau er mwyn i grŵ p arall eu perfformio. Dylech gynnwys rhai symudiadau y mae’n ‘rhaid’ eu cynnwys, e.e. dathlu sgorio gôl ac ati
    • nifer y plant ym mhob grŵp
    • y modd y mae’r parau’n gweithio, e.e. adlewyrchu. Newid y modd y mae’r grŵp yn gweithio, e.e. symudiadau unffurf (pawb ar yr un pryd), canon (un grŵp ar ôl y llall fel ton Fecsicanaidd)