Ar Garlam i’r Gofod
Wrth i ni ddod yn fwy medrus
Gweithgaredd
Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
- Chwaraewch gyfeiliant penodol i symbylu’r plant i ymateb drwy symudiadau
Anogwch y plant i:
- Ymarfer eu dawnsiau
- Archwilio hwyliau a theimladau gan ddefnyddio symudiadau syml
- Archwilio creu cymalau hwy, mwy diddorol sydd â safleoedd dechrau a gorffen pendant ac sy’n cyfleu agwedd benodol ar y stori
- Archwilio newidiadau o ran dynameg, e.e. cryf/gwan, cyflym/araf, llyfn/herciog, mawr/bach, ac ati
- Defnyddio’r Dull Bwrdd Stori i uno cymalau byr o symudiadau â’i gilydd i greu dawns sydd â dechrau, canol a diwedd
- Gweithio mewn parau i greu cymalau
- Archwilio ffordd wahanol o orffen y ddawns, e.e. Tom a Gethin yn dychwelyd i’r gofod ac yn mynd â Megan a/neu’r ddraig gyda nhw, a’r creadur estron yn dilyn y plant i’r parc neu rywle arall wedyn
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn gweithio yn eu ‘swigod’
Cyfleoedd i
- fynegi syniadau trwy ystod o symudiadau
- cysylltu cyfres o weithrediadau â’i gilydd â pheth rhwyddineb i greu cymal dawns sy’n cynnwys eiliadau o lonyddwch ac ystum i wella mynegiant
- ailadrodd cymalau
Cwestiynau
- Sut gallwch chi wneud eich gweithrediadau’n fwy amlwg a’u gor-wneud nhw?
- Sut gallwch chi neidio a gwneud ystumiau ar yr un pryd?
- Ble gallech chi ddefnyddio ystum a llonyddwch i wella eich mynegiant?
- Sut gallwch chi ychwanegu’r newid at eich llwybr?
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y cymal ‘adeiladu llong ofod’ a’r cymal ‘adeiladu castell tywod’ y gallech chi fod wedi’i berfformio o’r blaen?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn mynegi syniadau trwy ystod o symudiadau?
- Yn cysylltu cyfres o weithrediadau â’i gilydd â pheth rhwyddineb i greu cymal dawns sy’n cynnwys eiliadau o lonyddwch ac ystum i wella mynegiant?
- Yn ailadrodd cymalau?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch y plentyn i:
- wneud pob adran yn hwy neu’n fwy diddorol, trwy ychwanegu mwy o weithrediadau neu gynnwys newidiadau o ran cyfeiriad, lefel, cyflymder, llwybr, ac ati
- ailadrodd pob adran â safleoedd dechrau a gorffen clir
- gwrando ar y cyfeiliant ac ymateb yn briodol iddo
- dawnsio gyda phartner mewn canon (y ddau blentyn fel creaduriaid estron, neu un plentyn fel creadur estron a’r plentyn arall fel Tom, Gethin neu Megan, ac ati)
- trafod ansawdd ei symudiadau, e.e. sut gall ddangos y gwahaniaeth rhwng teithio drwy’r gofod ac ochrgamu a gwau ffordd o un man i’r llall ar gae rygbi?
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- ddefnyddio lluniau o’r stori i greu dilyniant neu fwrdd stori i’w helpu i greu cymal/motiff/dilyniant
- trafod pa syniadau/geiriau/lluniau o’r stori y byddai’n hoffi eu cynnwys fel ystum neu eiliadau o lonyddwch, a gweithio ar y rhain a datblygu gweithrediadau teithio i’w cysylltu nhw â’i gilydd
- datblygu ‘ciwb symudiadau’ fel ei fod yn dewis amrywiaeth o wahanol eiriau y mae’n eu hoffi. Yna, bydd y plentyn yn defnyddio’r ciwb i’w helpu i gyflwyno’i weithrediadau ar ffurf dilyniant
- gwylio dawnsiau plant eraill. Gofynnwch iddo ddewis y symudiadau y mae’n eu hoffi ac y byddai’n gallu eu cynnwys yn ei gymal ei hun
- trafod pa eiriau y byddai’n hoffi eu mynegi/cyfleu, a pha weithrediadau y gallai eu defnyddio i ddangos y geiriau hynny
- dweud y gair wrtho’i hun wrth symud (yn Gymraeg a Saesneg)