Ar Garlam i’r Gofod

Wrth i ni ddatblygu

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

  • Darllenwch rannau o’r stori/ chwaraewch rannau o’r stori oddi ar y CD-Rom

Anogwch y plant i:

  • Symud o amgylch y lle gan ddefnyddio gweithrediadau sy’n ‘addas i’r stori’
  • Archwilio casglu, cario, ac adeiladu llong ofod
  • Archwilio gadael y ddaear …. 1O, 9, 8…..3, 2, 1 ac i ffwrdd â hi
  • Archwilio symud fel y llong ofod• Archwilio symud fel dyn yn y gofod neu greadur estron

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • bod y plant yn gweithio yn eu ‘swigod’

Cyfleoedd i

  • ymuno drwy ymateb yn naturiol
  • dynwared gweithrediadau, synau a geiriau’n fras
  • symud mewn gwahanol ffyrdd
  • symud i wahanol gyfeiriadau
  • chwarae rôl ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â phlant eraill neu oedolyn

Cwestiynau

  • Dychmygwch eich bod chi newydd lanio ar Blaned Chwarae. Sut byddech chi’n symud?
  • Sut gallwch chi wneud eich gweithrediadau’n fwy amlwg?
  • Beth fyddech chi’n ei wneud pe baech chi’n gweld creadur estron?
  • A oedd y creaduriaid yn gyfeillgar neu’n anghyfeillgar?
  • Sut gallwch chi ddweud?
  • Sut gallech chi symud fel y creadur pinc? Sut mae’r creadur coch yn symud, yn eich barn chi?
  • Pa bethau cyfarwydd sydd yn y stori hon? Ble gallwch chi eu gweld nhw? Sut gallech chi ddangos y rhain yn eich dawns? E.e. drwy ailadrodd ac addasu gweithrediadau/cymalau’r barcud a’r ddraig, a grëwyd ganddynt o’r blaen

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn ymuno drwy ymateb yn naturiol?
  • Yn dynwared gweithrediadau, synau a geiriau’n fras?
  • Yn symud mewn gwahanol ffyrdd?
  • Yn symud i wahanol gyfeiriadau?
  • Yn chwarae rôl ar ei ben ei hun neu ochr ynochr â phlant eraill neu oedolyn?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • ailadrodd ei weithrediadau
    • trafod ansawdd ei weithrediadau, e.e. a yw ‘whwwsh’ yn air cyflym neu’n air araf? Cyflym – Sut galli di ddangos rhywbeth yn mynd ‘whwwsh’ i fi?
    • perfformio ei weithrediadau am fwy o amser
    • dangos ei weithrediadau i blentyn arall fel y gall y plentyn hwnnw eu copïo neu’u haddasu
    • dechrau dangos emosiynau drwy ei weithrediadau dawns: hapus, ac ati

     

  • Weithiau

    Anogwch y plentyn i:

    • ganolbwyntio ar ei hoff weithred
    • trafod sut gallai symud, a symudwch gydag ef
    • gwylio plant eraill i gael syniadau. Beth mae’n ei hoffi? Sut gallai ef wneud hynny?
    • dod o hyd i symbyliadau eraill sy’n ei ysbrydoli: lluniau, clipiau fideo, cerddi, rhigymau â symudiadau, a chaneuon a cherddoriaeth, ac ati
    • ateb cwestiynau am y symudiadau y gallai eu defnyddio, e.e. beth sy’n troi’n gyflym? Top troi – sut mae top troi’n symud? Dangos i fi sut gallet ti symud fel top troi, ac ati
    • ymarfer ei sgiliau Ymwybyddiaeth o’r Corff gan ddefnyddio’r Cardiau Sgiliau Technegol