Chwarae â Chwedlau

Wrth i ni wella

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

Anogwch y plant i archwilio’r canlynol:

  • Dychmygu eu bod yn gaeth mewn castell, a’u bod yn ceisio dianc rhag rhywbeth yn y gell sydd dan y ddaear. Maent yn mynd â’r ‘allwedd’ at ddrws y castell tra bod y ‘peth’ yn cysgu. Wrth iddynt sleifio i ffwrdd, mae’r ‘peth’ yn deffro acyn rhedeg ar eu hôl
  • Dechrau ag un yn sefyll y tu ôl i’r llall – y plentyn blaen yn ‘ochrgamwr’ a’r plentyn ôl yn ‘rhedwr’. Mae’r ‘rhedwr’ yn ceisio cael yr ‘allwedd’ yn ôl
  • Chwarae’r ddwy rôl – un yr ‘ochrgamwr’ ac uny ‘rhedwr’
  • Rhaid i’r ochrgamwr geisio cadw’r rhedwr allano’i ‘swigen’
  • Rhaid i’r rhedwr geisio mynd i mewn i ‘swigen’yr ochrgamwr

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhewch:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • mai un pâr yn unig sy’n gweithio ym mhob gardd fawr, a bod y plant yn ymwybodol o ‘swigod’ ei gilydd

Cyfleoedd i

  • ddatblygu sgiliau cydsymud a rheolaeth gynyddol
  • dangos ymwybyddiaeth gynyddol o le
  • adnabod sut mae eu hanadlu’n newid a sut maent yn edrych ac yn teimlo wrth wneud ymarfer corff

Cwestiynau

  • Sut symudoch chi i osgoi cael eich dal?
  • A fu’n rhaid i chi fynd â’r allwedd yn ôl?
  • Pa gyfeiriadau ddewisoch chi?
  • Pa rôl oedd orau gennych – un y ‘rhedwr’ neu un yr ‘ochrgamwr’?
  • Beth sy’n digwydd wrth i chi flino?
  • Sut daeth eich antur i ben?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Yn datblygu sgiliau cydsymud a rheolaeth gynyddol?
  • Yn dangos ymwybyddiaeth gynyddol o le?
  • Yn adnabod sut mae ei anadlu’n newid a sut mae’n edrych ac yn teimlo wrth wneud ymarfer corff?

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Anogwch y plentyn i:

    • adael i’r ochrgamwr ddechrau symud yn gynharach nag ef, pan fydd yn chwarae rôl y rhedwr
    • dechrau’n agos at y rhedwr, pan fydd yn chwarae rôl yr ochrgamwr
    • cwblhau cwrs slalom yn rhan o’r llwybr dianc
    • chwarae’r gêm am gyfnodau hwy
  • Weithiau

    Anogwch y plentyn i:

    • gerdded yn araf
    • ymarfer rhedeg
    • dechrau’n agos at yr ‘ochrgamwr’, pan fydd yn chwarae rôl y ‘rhedwr’
    • dechrau ymhell oddi wrth y ‘rhedwr’, pan fydd yn chwarae rôl yr ‘ochrgamwr’
    • trafod pa lwybr y bydd yn ei gymryd, cyn iddo ddechrau
    • chwarae’r gêm dros bellterau byrrach