Chwarae â Chwedlau
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Darparwr Gweithgarwch Corfforol
Beth am chwarae?
- Rhowch wyth plentyn ym mhob ‘gardd’
- Bydd dau o’r plant yn tagio a bydd y chwech arall yn ddihangwyr sy’n ceisio osgoi colli eu ‘cynffon’
- Bydd y tagwyr yn mynd ar ôl y dihangwyr, a phan fyddant yn ddigon agos byddant yn cipio’r cynffonnau oddi ar y dihangwyr
- Bydd y dihangwyr sydd wedi colli eu cynffonnau’n aros yn y gêm i geisio drysu’r tagwyr trwy ymddwyn fel ‘rhedwyr ffug’
- Bydd y tagwyr yn parhau i fynd ar ôl y dihangwyr nes iddynt gasglu’r cynffonnau i gyd neu nes i’r amser ddod i ben
- Sicrhewch fod pob plentyn wedi cael cyfle i fod yn un o’r tagwyr
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- fod yr arwyneb yn ddiogel ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn aros yn eu ‘gardd’
- bod digon o le gwag rhwng y ‘gerddi’
- bod parthau ar gael ar gyfer plant sy’n cael anhawster cerdded neu blant sy’n defnyddio cadair olwyn fel y bo’n briodol
Cyfleoedd i
- ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a sgiliau cydsymud
- datblygu sgiliau ochrgamu a mynd ar ôl
- datblygu strategaethau a thactegau
- gweithio gyda phartner i fod yn fwy cyfrwys na’r gwrthwynebwyr
- cynnal gweithgarwch am gyfnodau priodol
- disgrifio sut mae ymarfer corff yn effeithio ar y corff, a rhoi rhesymau i egluro pam mae gwneud gweithgaredd corfforol yn ddyddiol yn dda iddynt
Cwestiynau
- Sut roeddech chi’n teimlo pan oeddech chi’n dagiwr/dihangwr?
- Beth wnaethoch chi i osgoi colli eich cynffon?
– Beth arall allech chi ei wneud i ddianc rhag y tagwyr? - A fuoch chi’n siarad â’r tagwyr/dihangwyr eraill?
– Sut roedd cyfathrebu fel hyn wedi eich helpu i fod yn fwy llwyddiannus, neu sut y gallai eich helpu i fod yn fwy llwyddiannus? - Pa sgiliau y byddwch chi’n eu hymarfer er mwyn eich helpu i fod yn fwy llwyddiannus yn y gweithgaredd hwn?
- Pam mae gweithgareddau fel hyn yn bwysig i’ch iechyd?
- A wnaethoch chi unrhyw gamgymeriadau, neu a oeddech chi’n teimlo eich bod yn ei chael hi’n anodd ar unrhyw adeg?
- Pam mae’n bwysig i chi wneud camgymeriadau?
- Beth yw’r peth gorau i’w wneud pan fyddwch chi’n ei chael hi’n anodd?
Newidiadau i’r gweithgaredd
Change the:
-
Lle
- y lle, i gynnwys parth diogel y gall dihangwyr ei ddefnyddio am 5 eiliad
-
Tasg
- y modd y gall dihangwyr a thagwyr deithio, e.e. sgipio, ochrgamu, symud fel cranc, symud fel sgorpion, milwyr yn cropian, llwynogod, cwningod ac ati, neu ychwanegu pêl – rhaid i’r dihangwyr daflu a dal y bêl neu ei driblo â’u traed ac ati
- y modd y caiff y dihangwyr eu tagio, e.e. gan ddefnyddio pêl i gyffwrdd â’r cefn, neu ei thaflu at goesau
- y gweithgaredd y mae’r dihangwyr yn ei wneud pan fyddant yn cael eu tagio, e.e. pan gânt eu tagio rhaid sefyll yn stond ac er mwyn cael eu rhyddhau rhaid i ddihangwr arall berfformio naid twc o’u blaen, neu rhaid iddynt dderbyn pêl gan rywun y tu allan i’r ardd
-
Offer
- y mathau o beli neu offer a ddefnyddir wrth dagio neu ddianc
- y modd y caiff y cynffonnau eu cysylltu, e.e. i gadair olwyn
-
Pobl
- nifer y tagwyr/dihangwyr