Beth am 'Chwarae i Ddysgu'
Anogwch y plant i archwilio’r canlynol:
- Dychmygu eu bod yn gaeth mewn castell a bod rhywun/rhywbeth yn dod i’w hachub nhw. Yr unig ffordd o ddianc yw cuddio yn ‘swigen’ yr achubwr, lle bydd yn amhosibl i neb eu gweld. Os byddant yn symud allan o’r swigen neu’n cyffwrdd â’u hachubwr, bydd yr hud yn cael ei dorri. Rhaid iddynt symud yn gyflym drwy dwneli a choridorau’r castell, ar draws y ffos i ryddid
- Rhannu ‘swigod’ ei gilydd. Dylent ddechrau ag un yn sefyll y tu ôl i’r llall – y plentyn blaen yn ‘arweinydd’ a’r plentyn ôl yn ‘ddilynwr’. Dylai’r dilynwr geisio aros yn ‘swigen’ yr arweinydd heb gyffwrdd â’r arweinydd
- Penderfynu beth sy’n digwydd os byddant yn cyffwrdd â’r arweinydd neu’n symud allan o ‘swigen’ yr arweinydd
- Penderfynu ar y llwybr y byddant yn ei gymryd i ddianc, pan fyddant yn ‘arweinydd’
- Chwarae’r ddwy rôl – un yr ‘arweinydd’ ac un y ‘dilynwr’
- Datblygu a gwisgo gwisgoedd/coronau/ masgiau i wella’r gwaith chwarae rôl
Diogelwch a Threfniadaeth
Sicrhewch:
- bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
- bod y plant yn deall cysyniad y ‘swigen’
- nad yw’r gwisgoedd yn cyfyngu ar symudiadau’rplant na’u gallu i weld
Cyfleoedd i
- ddatblygu rheolaeth gynyddol ar symudiadau mawr y corff
- dilyn rheolau syml gêm
- chwarae rôl mewn partneriaeth â phlant eraill
Cwestiynau
- Sut cawsoch chi eich caethiwo yn y castell? Pwy oeddech chi, yn eich dychymyg? Pwy ddaeth i’ch achub chi?
- Ar beth roeddech chi’n edrych wrth i chi ddilyn eich partner?
- Pa mor fawr oedd ‘swigen’ eich arweinydd?
- Pa weithred oedd yr un hawsaf i’w chyflawni wrth i chi ddilyn?
- Beth roeddech chi’n dychmygu allai ddigwydd pe baech chi’n cyffwrdd â’r achubwr?
- Pa rôl oedd orau gennych – un yr ‘arweinydd’ neu un y ‘dilynwr’?
Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?
- Yn datblygu rheolaeth gynyddol ar symudiadau mawr y corff?
- Yn dilyn rheolau syml gêm?
- Yn chwarae rôl mewn partneriaeth â phlant eraill?
-
Y rhan fwyaf o'r amser
Anogwch y plentyn i:
- redeg er mwyn cyrraedd yr arweinydd a’i ddilyn
- cwblhau cwrs slalom yn rhan o’r llwybr dianc
- dychmygu bod yn rhaid cadw y tu mewn i swigen sy’n llai o fain
-
Weithiau
Anogwch y plentyn i:
- afael yn llaw ei bartner
- cerdded yn araf
- trafod pa lwybr y bydd yn ei gymryd, cyn iddo ddechrau
- ymarfer rhedeg ar hyd llwybr dianc ar ei ben ei hun
- defnyddio cylch neu ddarn mawr o elastig i gadw’r ddau blentyn yn agos at ei gilydd
- dychmygu bod gan yr achubwr swigen enfawr i guddio ynddi