Chwarae â Chwedlau

Wrth i ni ddod yn fwy medrus

Gweithgaredd
Play to Learn
Chwarae i Ddysgu

Beth am 'Chwarae i Ddysgu'

Annog y plentyn i wneud y canlynol:

  • Chwarae mewn dau dîm bach. Mae pob tîm yn gosod ffau gartref ac yn gosod nifer penodol o eitemau fel eu ‘trysor’.
  • Mae’r ddau dîm yn ceisio ‘cymryd’ trysor ei gilydd.
  • Penderfynwch ar reolau’r gêm, e.e. dim ond cael ‘cymryd’ un darn o drysor ar y tro. Os cânt eu tagio gan y tîm arall – rhaid iddynt fynd yn ôl i’r ffau gartref. Os cânt eu tagio gan y tîm arall wrth ddal darn o drysor – rhaid iddynt roi’r trysor yn ôl a dychwelyd i’r ffau gartref neu fod ‘yn sownd yn y mwd’ a chael eu rhyddhau mewn rhyw ffordd gan elodau eu tîm, ac ati.
  • Chwarae am amser penodol ac wedyn cyfrif y trysor ym mhob ffau gartref – y tîm gyda’r mwyaf o drysor sy’n ennill.

Diogelwch a Threfniadaeth

Sicrhau:

  • bod yr arwyneb yn lân ac yn rhydd o rwystrau
  • bod timau bach i ddechrau, sy’n cynyddu’n raddol faint y tîm a’r gofod sydd ar gael
  • nid oes unrhyw gyswllt heblaw am dagio ‘diogel’ – ar y cefn

Cyfleoedd i

  • gweithio’n ddiogel gydag eraill wrth ddefnyddio offer
  • siarad am yr hyn maen nhw ac eraill wedi’i wneud
  • gwneud awgrymiadau syml i wella perfformiad
  • cynnal gweithgarwch dros gyfnodau hirach o amser
  • disgrifio sut mae ymarfer yn effeithio ar y corff

Cwestiynau

  • What rules did you make up?
  • Who collected the most treasure for your team?
  • Did your team discuss tactics? What did you discuss?
  • What are you going to do to try and be more successful next time?
  • What happened to your breathing the longer the game went on?

Ydych chi’n gallu gweld y plentyn yn ...?

  • Gweithio’n ddiogel gydag eraill wrth ddefnyddio offer
  • Siarad am yr hyn maen nhw ac eraill wedi’i wneud
  • Gwneud awgrymiadau syml i wella perfformiad
  • Cynnal gweithgarwch dros gyfnodau hirach o amser
  • Disgrifio sut mae ymarfer yn effeithio ar y corff

  • Y rhan fwyaf o'r amser

    Annog y plentyn i wneud y canlynol:

    • chwarae yn erbyn mwy o blant
    • chwarae mewn ardal lai
    • cyflwyno ffyrdd cymhlethach o ‘gymryd’ trysor
    • cymryd rôl arweinydd fel capten y tîm
    • gweithio am gyfnodau hirach o amser
  • Weithiau

    Annog y plentyn i wneud y canlynol:

    • ymarfer rhedeg ac osgoi – edrychwch ar y Cardiau Sgiliau Technegol
    • gweithio gyda phartner a chwarae yn erbyn un plentyn arall i ddechrau
    • sefydlu ‘parth diogel’ y gallant fynd i mewn iddo fel sy’n briodol a pheidio â chael eu tagio
    • trafod syniadau gyda phartner ar sut gallent fod yn fwy llwyddiannus
    • gweithio am gyfnodau byrrach o amser a chymryd seibiant hirach rhwng y ‘dwyn’