Patrymau a Llwybrau
Wrth i ni gymhwyso ein sgiliau
Gweithgaredd
Cerdyn Person Ifanc
Beth am chwarae?
- Rhowch wyth plentyn ym mhob ‘gardd’
- Bydd angen i’r plant weithio gyda’i gilydd i greu cyfres o batrymau a llwybrau ar y llawr y bydd yn rhaid iddynt eu dilyn
- Caiff y patrymau/llwybrau eu creu gan ddefnyddio marcwyr dros dro, sialc, conau neu raffau sgipio, ysgolion ac ati
- Mae patrymau’n berthnasol i batrymau traed penodol, er enghraifft 2 i mewn 2 allan. Mae llwybrau yn drywydd y mae’n rhaid ei ddilyn ni waeth pa batrymau traed a ddefnyddir, e.e. ffigur 8, siâp y llythyren ‘W’, cwrs slalom, llinell grom a llinell syth ac ati
- Y nod yw cwblhau’r cwrs cyn gynted ag sy’n bosibl ac mor gywir ag sy’n bosibl